domingo, 24 de mayo de 2009

CRITICAS Y COMENTARIOS EN GALES



Gwales Review

Ar hyn o bryd mae’n debyg bod bri mawr yn yr Ariannin ar bethau sy’n ymwneud â Phatagonia oherwydd bod yr Arlywydd presennol yn dod oddi yno. Mae’n anochel, felly, bod hanes y Cymry yn y Wladfa yn derbyn mwy o sylw nag arfer, ac fel rhan o hyn cafodd llyfr Carlos D. Ferrari, El riflero de Ffos Halen lwyddiant mewn cystadleuaeth i ddod o hyd i'r llyfr gorau gan awdur oedd yn ysgrifennu am y tro cyntaf. Cyfieithwyd ac addaswyd y nofel yn gelfydd i’r Gymraeg gan Gareth Miles.

Hanes bywyd Ifor Thomas sy’n fab i Megan Thomas a Dafydd Williams, dau a gyfarfu ar fwrdd llong y Mimosa, sef y llong a gludodd yr ymfudwyr cyntaf i’r Wladfa, yw’r nofel. Nid yw Dafydd Williams, er hynny, yn byw i briodi ei gariad nac i weld geni ei fab oherwydd ei fod yn mynd ar goll ar y paith. Ceir ychydig o ramant i ddechrau’r nofel, felly, a da gweld mai pobl o gig a gwaed fel y gweddill ohonom yw’r gwladychwyr a bortreedir yn y nofel! Megir Ifor Thomas gan ei nain a’i daid sy'n cymryd arnynt eu bod yn rhieni iddo, ac mae’r sioc o sylweddoli bod ei deulu wedi dweud celwydd wrtho trwy gydol ei ieuenctid yn ei yrru i fyw allan ar y paith ar ei ben ei hun yn ei ffermdy, gan hela a gwerthu crwyn i wneud ei fywoliaeth.

Nid portread o gymeriad confensiynol a geir yn y nofel felly ond yn hytrach portread o gymeriad sy’n dewis ymneilltuo i fyw bywyd gwahanol ond anturus. Er hynny, collwyd cyfle i ddatblygu cymeriad Ifor Thomas a gweddill ei deulu ac i ddisgrifio'u teimladau yn ystod y cyfnod anodd hwn yn eu bywydau. Yn wir, mae’r nofel yn dioddef yn aml o ddiffyg cymeriadu gan mai digwyddiadau a gweithredoedd y cymeriadau a ddisgrifir i raddau helaeth yn hytrach na’u teimladau.

Yn naturiol, gan fod Y Gaucho o’r Ffos Halen yn adlewyrchu dyddiau cynnar y Cymry yn y Wladfa, sonnir am galedi eu bywyd a’u hamgylchiadau. Er hynny, credaf mai peth anodd yw ysgrifennu nofel am gymeriad ffug sy’n byw mewn lle a chyfnod y ceir cymaint o gofnod ohonynt, yn arbennig gan fod yr awdur mor awyddus i gyfeirio at y digwyddiadau hanesyddol hyn. Canlyniad hyn yw cyfres o gyd-ddigwyddiadau sydd bron yn syrffedus ar brydiau, sy’n golygu bod y nofel yn ymdebygu braidd i nofel antur ar gyfer plant wrth neidio o un digwyddiad i’r llall. Y mwyaf o’r cyd-ddigwyddiadau hanesyddol hyn yw bod Ifor Thomas yn dod ar draws Butch Cassidy a’r Sundance Kid ac yn chwilio am aur gyda hwy, gan syrthio mewn cariad ag Etta Place yn y cyfamser. Yn yr ymgais hon i lynu’n agos at ddigwyddiadau go-iawn mae’r nofel yn disgyn rhwng dwy stôl – rhwng yr hanesyddol a’r llenyddol.

Nith Ifor Thomas sy’n adrodd yr hanes, ond nid yw hyn yn dod yn amlwg tan ail hanner y nofel, a chredaf fod hyn yn wendid y gellid fod wedi ei osgoi. Mae hyn i ryw raddau yn egluro’r diffyg cymeriadu a’r mynegiant o deimladau’r cymeriadau, gan y byddai’n disgrifio teimladau aelodau o’i theulu, ond byddai’n llawer gwell cyflwyno’r berthynas hon o’r cychwyn. Tua’r diwedd mae’r adroddwr yn ychwanegu sentimentalrwydd ystrydebol dianghenraid gan ei bod yn cyfeirio at ei sgwrs olaf gyda’i hewythr cyn iddo farw. Mewn sgwrs sy’n siŵr o fod yn boblogaidd gyda’r gynulleidfa gyfoes, eglura Ifor Thomas i'w nith gymhlethdod perthynas y gwladychwyr gyda Chymru ac Ariannin, gan ei hatgoffa am ei hetifeddiaeth. I goroni’r sentimentalrwydd yn y bennod olaf, mae’r adroddwr yn dibynnu ar ystrydebau megis y gall bellach farw mewn hedd o wybod bod hanes ei hewythr wedi’i gofnodi. Unwaith eto, mae’r awdur yn disgyn rhwng dwy stôl trwy geisio ysgrifennu nofel antur a chofnod teuluol teimladwy ar yr un pryd.

Credaf y gallai Gareth Miles fod wedi gwneud defnydd gwell o’i ddawn fel cyfieithydd trwy gyfieithu gweithiau llenyddol eraill o’r Sbaeneg i’r Gymraeg. Mae’n drueni bod y nofel hon wedi cael ei chyfieithu i’r Gymraeg oherwydd ei bod yn ymwneud â’r Wladfa Gymreig yn unig, gan fod gweithiau llenyddol eraill yn y Sbaeneg o America Ladin a Sbaen sy’n haeddu llawer mwy o gydnabyddiaeth ac a allai gyfoethogi ein llenyddiaeth trwy gael eu cyfieithu i’r Gymraeg. Er hynny, os mai eich bwriad yw dysgu rhywfaint am hanes y Wladfa ac am ein hanes fel Cymry, a hynny mewn modd ysgafnach na darllen llyfr hanes, yna ni chewch gyfeirlyfr sy’n haws ei ddarllen nag anturiaethau’r Gaucho o’r Ffos Halen.
Lowri Williams

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.





Y Gaucho o'r Ffos Halen


Adolygiad gan Glyn Evans o Y Gaucho o'r Ffos Halen gan Carlos D Ferrari. Cyfieithiad Gareth Miles. Carreg Gwalch. £7.

Mae rhai ohonom yn cofio, flynyddoedd yn ôl, fwynhad a gafwyd o lyfrau am 'gowbois' Cymraeg o gymharu â'r rhai Saesneg eu hiaith hynny a fyddem yn eu gweld yn y pictiwrs.

Yn cofio bod yn gaeth i Y March Coch gan R. Bryn Williams ar radio yn gyntaf, oddeutu 1949, ac wedyn yn y comic Hwyl ac yn nofel ar ôl hynny.

Ym 1950 enillodd yr un awdur, R Bryn Williams, wobr yn Eisteddfod Genedlaethol Caerffili gyda'i Bandit yr Andes a ddaeth hefyd yn ddrama radio boblogaidd.

Cyn yr un o'r ddwy yma roedd Bryn Williams wedi cyhoeddi Straeon Patagonia yn adrodd ymhlith hanesion eraill hanesyn y ceffyl rhyfeddol, Malacara, a achubodd fywyd John Daniel Evans.

Ond er bod tebygrwydd rhwng ei nofelau ef a'r Westerns Saesneg straeon cwbl Gymreig oeddan nhw am Gymry yn y Wladfa a sefydlwyd ganddynt ym Mhatagonia, yr Ariannin.

Wedi'r bwrlwm hwnnw bu'n hirlwm oni bai am ddwy nofel arall a gyhoeddwyd eto gan R. Bryn Williams ddiwedd y chwedegau a dechrau'r saithdegau, Y Rebel ac Agar.


Aur llenyddol

Mae'n rhywfaint o syndod i wythïen mor gyfoethog a naturiol Gymraeg esgor ar gyn lleied o aur llenyddol. Ond ychydig drybeilig o weithio a fu arni ar wahân i ymdrechion clodwiw Bryn Williams.

Hyd yn oed pan ddaeth teledu Cymraeg i'w oed ni fu'r cefndir hwn sy'n gyfuniad amheuthun o'r dieithr a'r cyfarwydd yn sbardun.



Sgrifennu yn Sbaeneg

O ganlyniad, mae Y Gaucho o'r Ffos Halen y nofel Gymraeg gyntaf a'i chefndir yng Ngwladfa Patagonia i'w chyhoeddi ers blynyddoedd lawer.

Nid nofel Gymraeg wreiddiol yw hi ond un wedi ei sgrifennu yn Sbaeneg yn gyntaf gan un o dras Gymreig sy'n byw yn Y Wladfa, Carlos D Ferrari.

Yn gyfuniad o nofel serch a nofel hanes mae'n cychwyn ar fwrdd y Mimosa a'r fintai gyntaf o ymfudwyr o Gymry yn cyrraedd Patagonia.

Ni all unrhyw un a ymwelodd â Phatagonia, a gweld natur yr amgylchedd naturiol yno, beidio â dyfalu beth oedd ymateb y Cymry hyn i'w golwg gyntaf ar y tir cras ac anghroesawgar hwn - yn enwedig â hwythau wedi'u harwain i gredu fod tiroedd ffrwythlon, ir, yn eu disgwyl.

Mae'r ymateb hwnnw yn cael ei gyfleu yn effeithiol iawn yn Y Gaucho o'r Ffos Halen.


"Gobeithion twyllodrus oedd y rhain. Cafwyd, wedi glanio, fod y ddarpariaeth yn wahanol iawn i'r disgwyl. Nid oedd y llety ond hoewal cyfyng, simsan, na wnâi lawer i warchod ei breswylwyr rhag yr oerwynt a chwythai o'r môr . . . fe'u synnwyd gan grinder diflas y wlad y tu hwnt i'r traeth. Y rhyfeddod pennaf oedd nad oedd yr un goeden i'w gweld yn unman .


"Enynnodd dieithrwch ac ansicrwydd eu hamgylchiadau i lawer o anghydfod a ffraeo . . .er gwaethaf areithiau huawdl, tanbaid, Edwin Roberts a addawai bethau gwych iawn i ddyfod. . ."



Ond caledi, siom ac hyd yn oed drychinebau a ddaeth i drethu dewrder y Cymry a hynny'n cael ei amlygu drwy hanes arwr y nofel, Ifor Randal Thomas, a'i gymhlethdodau teuluol. Er, go brin fod angen dweud, "adlewyrchai sefyllfa'r teulu Thomas argyfwng cyffredinol y Wladfa" i'r darllenydd sylweddoli hynny.



Butch a Sundance


Cawn yr argraff ar y cychwyn mai ailadrodd hanes yr ymsefydlu trwy ei lygaid ef a'i deulu yw'r unig fwriad ond er bod hynny'n digwydd mae stori'n tyfu hefyd gan gyrraedd ei phenllanw gydag ymweliad Butch Cassidy a'r Sundance Kid a chartref Ifor a charwriaeth Ifor ag Etta Place, gwraig Sundance.

Dydi hyn ddim mor ffansïol ag yr ymddengys ar yr olwg gyntaf.

Bu Butch a Sundance yn byw ar eu hysbail yn Cholila ar gyrion Y Wladfa ac y mae'n wir iddyn nhw fod yn cymysgu â'r Cymry gan hyd yn oed ymweld â chartrefi ambell un a gwneud cryn argraff oherwydd eu hymarweddiad foneddigaidd "a'u Saesneg da" yn ôl un sy'n cofio'r straeon amdanynt.

O safbwynt storïol dyma ran fwyaf gafaelgar y nofel gyda'r awdur yn anhuddo tyndra'n ofalus hamddenol a chreu awyrgylch o beryg ac ofn wrth i Ifor ddangos iddyn nhw, yn ei ddiniweidrwydd, bot o aur y mae wedi ei gasglu .

Mae'r amseru yma, wrth adrodd, yn gelfydd tu hwnt a'r stori am gariad coll yr Ifor claf o serch yn llawn sensitifrwydd.
Dyma yn sicr ran orau y llyfr o safbwynt nofelaidd.


Caledi a dewrder


Ond mae i'r gweddill rinweddau hefyd ac yn profi unwaith eto offeryn pa mor effeithiol yw ffuglen i drosglwyddo Hanes.

Mae'r diddordeb sy'n deillio o weddill y nofel yn ymestyn o'r wybodaeth am helyntion a chaledi a dewrder gwladychu a chydol yr amser mae cyffyrddiad yr awdur yn sicr.

Dim ond ymhellach yn y nofel y sylweddolwn pwy sy'n dweud y stori ac y mae hynny yn egluro'r arddull sydd weithiau'n ymddangos yn hen ffasiwn ond, wedi arfer â hi, yn gweddu i'r dim i gefndir a chyfnod y nofel - er bod rhywun yn ofni y gall anystwythder yn y naratif brofi'n dramgwydd i rai darllenwyr.

Yn gwbl naturiol; yn unol a symlrwydd y gwaith ac heb ymddangos yn hunandybus, pregethwrol na phwysfawr mae cwestiynau fel hunaniaeth a gwreiddiau yn bynciau trafod wrth i'r Cymry ddygymod a deuoliaeth bod yn hen genedl yn ceisio diogelu ei diwylliant a'i ffordd o fyw dan ddylanwadau gwlad ddieithr.

"Un o blant yr Ariannin a Phatagonia wyf i, merch i Gymro a Chymraes oedd ymhlith y fintai wladfaol gyntaf," meddai'r storiwraig wrth drafod y dylanwadau arni. Dylanwadau amgylcheddol "awelon a dsdaw o'r paith ac o'r meysydd - mŵg o dân coed, alffalfa newydd ei doirri" a "chwaon chwys a baco" a lynai wrth ddillad y dynion ar y naill law a hen werthoedd ei chenedl ar y lall .

"Rwy'n sôn . . . am y Gwladfawyr hynny, heb ddim ond rhawiau a nerth bôn braich, fu'n cydymdrechu ac yn cydweithredu . . . am y mamau a roddodd enedigaeth i'w plant yn nhywyllwch rhynllyd y bythynnod pridd, a lwyddodd i fwydo eu teuluoedd pan oedd newyn . . . ac a weddïai wrth erchwyn gwely plentyn claf pan nad oedd yr un feddyginiaeth heblaw'r ffydd Gristnogol ar gael."

Os nad yw'n gwneud dim arall mae'r nofel hon yn dangos sut y gall amgylchiadau arbennig ac adfyd greu pobl arbennig hefyd.

Diolch am ei chael yn y Gymraeg.

Dengys hefyd bod yn y chwarel arbennig hon ddigonedd o straeon eraill i'w cloddio a chyda'r deffroad newydd yn yr ymwybyddiaeth o Gymreictod yn y Wladfa gellir gobeithio y bydd eraill am efelychu ymdrech Carlos Ferrari a Gareth Miles - a'r teledu yn gweld gwerth yn hynny hefyd.


Glyn Evans

http://www.bbc.co.uk/cymru/adloniant/llyfrau/adolygiadau/433-gaucho.shtml




No hay comentarios: